WF 02
Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
Inquiry into the sustainability of the health and social care workforce
Ymateb gan: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Response from: Older People’s Commissioner for Wales
Dai Lloyd AM
Cadeirydd
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Caerdydd
CF99 1NA
26 Awst 2016
Annwyl Gadeirydd,
Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
1. Mae gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi ei hyfforddi’n briodol ac yn cael ei werthfawrogi’n hanfodol i sicrhau gwasanaethau o ansawdd uchel yng Nghymru. Felly rwy’n croesawu’r cyfle hwn i gynnig sylwadau ynglŷn â chynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.
2. Rwy’n croesawu’r meysydd ffocws a nodwyd gan y Pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad hwn, meysydd y mae llawer o fy ngwaith hyd yma wedi rhoi sylw iddynt. Mae fy nhystiolaeth isod yn crynhoi nifer o’r pryderon yr wyf wedi eu codi drwy fy ngwaith parhaus:
Adolygiad o Gartrefi Gofal:[1]
3. Mae staff gofal yn chwarae rhan hanfodol o safbwynt p’un ai a yw pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn mwynhau bywyd o ansawdd da. Yn fy Adolygiad tynnwyd sylw at y pwysau presennol sydd ar y gweithlu gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys:
· Diffyg capasiti staff, a hynny’n creu dull seiliedig ar dasgau tuag at ofal;
· Diffyg hyfforddiant, yn cynnwys hyfforddiant addas i staff sy’n gweithio’n agos gyda phobl sy’n byw gyda dementia a/neu sydd wedi colli eu golwg neu eu clyw;
· Arweinyddiaeth a chefnogaeth annigonol ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal, sy’n hanfodol er mwyn creu’r diwylliant priodol o fewn cartref gofal;
· Bod gweithlu ar gael (yn cynnwys prinder staff nyrsio)
· Telerau ac amodau staff
4. Roedd Fy Adolygiad yn cynnwys nifer o Ofynion i’w Gweithredu mewn perthynas â gweithlu cartrefi gofal. Gellir eu gweld yma. Ar hyn o bryd rwy’n mapio’r gwaith sydd ar y gweill i sicrhau’r canlyniadau y mae pobl hŷn eisiau eu gweld ac rwy’n bwriadu rhannu’r gwaith hwn gyda’r Pwyllgor yn fuan.
Gofal Cymdeithasol Cymru:
5. Mae’r Pwyllgor yn nodi’r angen i fesur i ba raddau y mae gan Gymru weithlu dra chymwys i ddiwallu anghenion iechyd a gofal yn y dyfodol, a ddatblygir drwy nifer o ffyrdd.
6. Yn y dyfodol bydd y gweithlu gofal yn y cartref a gofal preswyl oedolion yn cael ei reoleiddio drwy Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) gan sicrhau hyfforddiant gorfodol i’r gweithlu gofal cymdeithasol. Gan ddefnyddio’r canfyddiadau yn fy Adolygiad o Gatrtefi gofal, nodais yn ddiweddar fy nisgwyliadau ar gyfer sicrhau gweithlu gofal cartref, wedi ei hyfforddi’n briodol mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ar y blaenoriaethau ar gyfer deddf newydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Gellir eu gweld yma.
Gofal yn y Cartref:
7. Roedd recriwtio a chadw staff iechyd a gofal cymdeithasol drwy Gymru, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar hyn, yn faes y tynnwyd sylw ato yn fy Adolygiad o Gartrefi Gofal. Yn fwy diweddar, ymatebais i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar wella’r broses o recriwtio a chadw gweithwyr gofal yn y cartref yng Nghymru, a oedd yn amlinellu’r angen i’r gweithlu gael ei ystyried fel proffesiwn o bwysigrwydd strategol allweddol. Gellir gweld fy ymateb i’r ymgynghoriad hwn yma.
Gofal Sylfaenol:
8. Mae cynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru a GIG Cymru[1] yn dangos yn glir symudiad tuag at ddarparu mwy o ofal a chefnogaeth o fewn y gymuned ac yn agos at gartrefi pobl, lle y bo hynny’n bosibl.
9. Mae'n hanfodol bod staff iechyd sydd wedi eu hyfforddi’n briodol ar gael i wireddu’r bwriad hwn. Er enghraifft, tra bod ymrwymiadau i lefelau staff nyrsio mewn wardiau ysbytai, a nodir yn Neddf Lefelau Staff Nyrsio 2016, i’w croesawu, rhaid cynllunio a hyfforddi’r gweithlu’n ddigonol er mwyn sicrhau na fydd yr ymdrech i gyflawni hyn yn amharu ar lefelau staff nyrsio o fewn gofal sylfaenol a’r gymuned.
10. Ar hyn o bryd rwy’n ymgymryd â gwaith i ddeall profiadau a mynediad pobl hŷn at wasanaethau meddygon teulu, gan gasglu tystiolaeth drwy sesiynau trafodaethau grŵp a holiadur. Byddaf yn cyhoeddi fy nghanfyddiadau yn gynnar yn 2017.
11. Nid wyf am ragfarnu canfyddiadau a chasgliadau’r gwaith hwn, ond mae’r dystiolaeth yr wyf eisoes wedi ei chasglu’n dangos bod pobl hŷn yn ymwybodol o heriau presennol y gweithlu ym maes gofal sylfaenol ac o’r anhawster i recriwtio meddygon teulu’n benodol, ac yn gallu cael trafferth ar hyn o bryd i wneud apwyntiad o fewn amserlen resymol.
12. Gallaf eich briffio ymhellach ynglŷn â’r gwaith hwn os hoffech gael rhagor o wybodaeth.
Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru):
13. Roedd fy Adolygiad o Gartrefi Gofal yn cynnwys tystiolaeth sylweddol ynglŷn â’r rôl allweddol y mae GIG Cymru’n a’i nyrsys yn ei chwarae o safbwynt ansawdd gofal a diogelwch pobl hŷn mewn cartrefi gofal preswyl a nyrsio. Yn ogystal â chartrefi gofal nyrsio, mae nifer fawr o nyrsys sy’n gweithio drwy Gymru yn gweithio yn y gymuned.
14. Gyda’r polisi a gynlluniwyd yn symud oddi wrth driniaeth ac aros am hir mewn wardiau aciwt a thuag at ofal a thriniaeth yn y gymuned, a hefyd yr angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well, mae angen cynllunio gweithlu a sicrhau lefelau staff nyrsio diogel yn y lleoliadau hynny er mwyn sicrhau bod pobl hŷn sydd efallai’n fregus a diamddiffyn yn derbyn gofal diogel a phriodol ym mhob sefyllfa. Gellir gweld fy ngwaith craffu cyn deddfu yma:
15. Byddaf yn gwneud gwaith dilynol i fy Adolygiad o Gartrefi Gofal yn ystod y flwyddyn nesaf ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor a’i aelodau yn ein rolau craffu.
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Cofion gorau,
Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru